BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mae Casineb Yn Brifo Cymru - Safwn Yn Erbyn Trosedd Gasineb

Safwn yn erbyn trosedd gasineb

Mae troseddau casineb yn drosedd a gyflawnwyd yn erbyn rhywun oherwydd eu:

  • Hil
  • Crefydd
  • Tueddfryd Rhywiol
  • Anabledd
  • Hunaniaeth Drawsryweddol

Gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig. Gallwch brofi troseddau casineb yn seiliedig ar un neu fwy o'r uchod, neu os tybiwyd bod gennych un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig hyn.

Gall troseddau casineb ddigwydd yn unrhyw le. Gallai fod yn y gweithle, mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn cymdogaethau a hyd yn oed ar-lein. Mae’n bwysig ein bod yn sefyll gyda’n gilydd yn erbyn troseddau casineb.

Os ydych chi'n dioddef trosedd casineb, gall ein cefnogaeth annibynnol a chyfrinachol rhad ac am ddim eich helpu i ymdopi ac adfer ar ôl effaith trosedd.

Cysylltwch â ni:

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Troseddau Casineb Cymru - Ganolfan Adrodd a Chefnogi Troseddau Casineb Cenedlaethol

Mewn argyfwng dylech gysylltu â'r Heddlu bob amser ar 999. Os nad yw’n argyfwng, gallwch gysylltu â'ch heddlu lleol ar 101.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.