BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

"Mae gen i lais nawr hefyd": pobl ifanc yn dathlu llwyddiant wrth i raglen gyflogaeth gynnig mwy na gwaith iddyn nhw

Dom Jones from Buckley

Gwell siawns o gael swyddi, mwy o foddhad â bywyd a help i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yw rhai o'r manteision y mae dysgwyr ifanc wedi'u profi ers ymuno â Twf Swyddi Cymru+.

Yn rhan o Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu a chymorth cyflogadwyedd personol i bobl ifanc 16 i 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • helpu pobl ifanc NEET i feithrin sgiliau, ennill cymwysterau a chael profiadau i'w galluogi i symud ymlaen tuag at gyflogaeth, gan gynnwys prentisiaethau neu at ddysgu ar lefel uwch
  • helpu cyflogwyr sy'n cyflogi person ifanc – gan ddarparu cymhorthdal cyflog o hyd at 50 y cant o gostau cyflogaeth y person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf.

Mae gwerthusiad annibynnol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn dangos bod llawer i'w ddathlu. Dywedodd 95% o'r rhai a holwyd a oedd wedi cwblhau'r rhaglen fod eu siawns o ddod o hyd i waith wedi cynyddu, gydag 82% o'r rhai a holwyd a oedd yn parhau ar y rhaglen yn cytuno bod eu lwfans hyfforddiant wedi helpu i leddfu pwysau ariannol.

Yn ogystal â'r cymorth hwn sy'n seiliedig ar waith, roedd yn galonogol iawn gweld bod 82% yn teimlo'n fwy bodlon â'u bywyd a bod 81% yn teimlo'n hapusach.

Ar y cyfan, mae'r data diweddaraf yn awgrymu bod 68% o'r rhai sy'n cymryd rhan yn llwyddo i gael canlyniad cadarnhaol o fewn pedair wythnos i adael y rhaglen, a naill ai'n symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, cyflogaeth neu brentisiaeth.

Mae gwerthusiad terfynol yn mynd rhagddo a bydd yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: "Mae gen i lais nawr hefyd": pobl ifanc yn dathlu llwyddiant wrth i raglen gyflogaeth gynnig mwy na gwaith iddyn nhw | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.