Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2023 ar sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos bod trosiant blynyddol o £1.5 biliwn wedi cael ei gynhyrchu yn ystod 2023, cynnydd o dros 10% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae uchafbwyntiau eraill yn yr adroddiad ystadegol yn dangos:
- Bod dros 3,500 o fusnesau bellach yn gweithredu yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, cynnydd o 12% ers 2018
- Bod dros 35,000 o bobl bellach yn cael eu cyflogi o fewn sectorau â blaenoriaeth Cymru Greadigol, yn ogystal â gweithlu llawrydd sylweddol
- Bod trosiant blynyddol wedi cynyddu ar gyfer y sectorau Teledu a Ffilm, Gemau, Digidol a Cherddoriaeth
Mae'r diwydiannau creadigol yn cael eu cydnabod yn eang fel un o lwyddiannau mawr Cymru, yn dilyn dros ddegawd o fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru ar ôl nodi eu bod yn cynnig potensial sylweddol i Gymru ar gyfer twf.
Ers iddi gael ei sefydlu, mae cynyrchiadau a gefnogir gan Cymru Greadigol wedi cyfrannu at £313 miliwn disgwyliedig o wariant amodol i economi Cymru (ar bopeth o gyflogaeth a datblygu sgiliau i setiau ffilmio a thwf busnes) drwy fuddsoddiadau gwerth £26.5 miliwn mewn cyllid cynhyrchu yn unig.
Y tu hwnt i'w heffaith economaidd, mae cynyrchiadau a gefnogir gan Cymru Greadigol hefyd yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu creadigol Cymreig sy'n fwyfwy medrus ac amrywiol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos ffyniant creadigol yng Nghymru sy'n rhoi hwb i'r economi | LLYW.CYMRU