BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Music Ally SI:X

Headphones

Mae Music Ally SI:X yn arddangosfa fyd-eang, yn gystadleuaeth, ac yn rhaglen cymorth mentora i fusnesau newydd yn y diwydiant cerddoriaeth. Caiff ei gynnal bob blwyddyn, a bydd yn dewis busnesau newydd cyffrous ac arloesol i'w cynnwys yn Startups Report blynyddol Music Ally.

Dim ond dau faen prawf y mae angen ichi eu bodloni cyn y cewch wneud cais i ymuno â’r rhaglen Music Ally SI:X

  • Mae'n rhaid i'ch cwmni fod wedi'i sefydlu ers 1 Ionawr 2019
  • Ni ddylai’ch cwmni fod â mwy na 200 o weithwyr

Sylwch fod y fenter hon wedi'i hanelu at fusnesau newydd sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth ac sy'n cynnig rhywbeth newydd ac arloesol i’r diwydiant. Nid yw’n fenter ar gyfer cwmnïau cerddoriaeth traddodiadol fel rheolwyr artistiaid, labeli, cyhoeddwyr, a dosbarthwyr, na chwmnïau gwasanaeth fel ymgynghorwyr unigol neu asiantaethau cerddoriaeth. Mae Music Ally SI:X yn chwilio am syniadau newydd ac arloesol, boed hynny yn y defnydd o dechnoleg neu yn eich dull o gynnal busnes.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Medi 2024 am 4pm.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Music Ally SI:X - Music Ally


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.