BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

O Gymru i'r byd – dathlu llwyddiannau creadigol mawr

Kensuke's Kingdom

Beth sydd gan stori dyner am daith cwpl hoyw i fabwysiadu, gêm saethu zombies, a llu o ddreigiau syfrdanol sy'n anadlu tân yn gyffredin?

Diwydiant creadigol anhygoel Cymru oedd yn gyfrifol am eu creu – a dod â nhw i'n sgriniau – yn 2024.

Cymru Greadigol yw asiantaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a chefnogi diwydiannau creadigol y genedl, o deledu, ffilm ac animeiddio i gemau, cyhoeddi a cherddoriaeth. Mae hefyd yn darparu cyllid i ddod â chyfleoedd cynhyrchu a hyfforddi unigryw ac uwchsgilio i Gymru a chwmnïau yng Nghymru.

Yn ystod y chwe mis diwethaf yn unig, mae cynulleidfaoedd teledu, ffilm a gemau byd-eang wedi cael cyfle i weld llawer o gynyrchiadau sy'n gysylltiedig â Chymru, gan gynnwys:

'House of the Dragon', stori sy’n rhagflaenu’r Game of Thrones byd-enwog – a ffilmiwyd ar leoliad ar draws gogledd Cymru, gyda golygfeydd dramatig yr ardal yn cyfleu tiroedd chwedlonol Dragonstone a Riverlands, ymhlith eraill.

  • 'Lost Boys and Fairies' y BBC – cyfres fer hyfryd ond torcalonnus am daith cwpl hoyw at fabwysiadu, wedi'i ffilmio yn bennaf yn y brifddinas, ac wedi'i phlethu â'r iaith Gymraeg.
  • 'Kensuke's Kingdom', a fydd yn ymddangos mewn sinemâu ddydd Gwener yma, sy'n nofel a ddaeth yn fyw i'r sgrîn fawr, gyda lleisiau Cillian Murphy a Sally Hawkins. Fe wnaeth animeiddwyr o Gaerdydd, Bumpybox, weithio mewn partneriaeth ar greu’r ffilm.
  • Gêm fideo arswyd / saethu zombies 'Sker Ritual' – gyda chefndir Cymreig cryf, daeth yn un o'r gemau PC a chonsol sydd wedi gwerthu orau yn y byd o fewn yr wythnos gyntaf o gael ei lansio.

Ac nid ein sgriniau ni yn unig sydd wedi’u goleuo gydag antur sy'n gysylltiedig â Chymru. Mae Cymru Greadigol hefyd wedi helpu i greu map digidol o sîn gerddoriaeth helaeth ac sy'n ehangu drwy'r amser.

Mae'r map ar gael drwy wefan Ymchwil Cerddoriaeth Fyw, ac mae'n nodi 496 o fusnesau ar draws 22 awdurdod lleol Cymru, sy'n cynnwys: 75 stiwdio recordio, 7 stiwdio ymarfer penodol a 414 lleoliad cerddoriaeth o wahanol fathau.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: O Gymru i'r byd – dathlu llwyddiannau creadigol mawr | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.