BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Lleisiau Cudd

Armed forces

Mae ceisiadau ar gyfer Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen Lleisiau Cudd bellach ar agor.

Gall elusennau cofrestredig yn y DU a Chwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC) sydd â phrofiad diweddar sylweddol o gefnogi cymunedau’r Lluoedd Arfog wneud cais.

Mae grantiau hyd at £20,000 ar gael i gefnogi prosiectau sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl a lles hygyrch i bersonél y Lluoedd Arfog sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn ogystal â Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr a theuluoedd.

Bydd rhaglen Lleisiau Cudd yn mynd i’r afael â’r mater hwn yn uniongyrchol drwy ei gwneud yn ofynnol i brosiectau gyflawni’r holl ganlyniadau rhaglen a ganlyn:

  • Adeiladu partneriaethau cydweithredol rhwng sefydliadau’r Lluoedd Arfog a sefydliadau arbenigol nad ydynt yn rhan o’r Lluoedd Arfog
  • Darganfod ble mae’r bylchau hysbys ac anhysbys yn y ddarpariaeth gwasanaethau a mynd i'r afael â nhw
  • Cynnig ymyrraeth drwy ddulliau sy’n hygyrch, yn atal ac yn ddiffiniedig
  • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion unigryw cymuned y Lluoedd Arfog gyda’r sector gwirfoddol prif ffrwd

Y dyddiad cau cyntaf ar gyfer ceisiadau yw 12pm ar 11 Medi 2024. Byddwch yn derbyn penderfyniad cyn diwedd Rhagfyr 2024. Bydd ail rownd o gyllid yn cau yn gynnar yn 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Mae rhaglen Lleisiau Cudd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau! : Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.