BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rheoli trais ac ymddygiad ymosodol sy'n gysylltiedig â gwaith

office worker being shouted at by a manager

Gall trais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol a meddyliol eich gweithwyr

Bydd canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar drais yn y gwaith yn eich helpu i ddiogelu eich gweithwyr. Bydd yn eich helpu i:

  • asesu’r risgiau
  • rhoi’r mesurau rheoli cywir ar waith
  • adrodd am ddigwyddiadau a dysgu oddi wrthynt

Mae canllawiau penodol ar sut i gefnogi eich gweithwyr ar ôl digwyddiad treisgar ar gael. Ceir enghreifftiau hefyd o sefyllfaoedd cyffredin lle mae cyflogwyr wedi lleihau'r risg o drais.

Yn ogystal, ceir cyngor ar wahân i weithwyr, sy'n esbonio sut y gallant helpu cyflogwyr i atal digwyddiadau treisgar yn y gwaith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.