BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Statws mewnfudo ar-lein (eFisa)

Traveller at an airport

Mae Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn datblygu system fewnfudo ddigidol.

Drwy gydol 2024 mae UKVI yn disodli dogfennau mewnfudo ffisegol fel Trwyddedau Preswylio Biometrig (BRPau) a Chardiau Preswylio Biometrig (BRCau), a dogfennau papur hŷn, gyda chofnod ar-lein o statws mewnfudo o'r enw eFisa.

Gall unrhyw berson sydd â thrwydded preswylio biometrig (BRP) sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024 greu cyfrif UKVI a chael mynediad i'w eFisa, heb fod angen gwahoddiad gan UKVI i wneud hynny.  Ewch i www.gov.uk/evisa am fwy o wybodaeth.

Mae'r Swyddfa Gartref yn eich gwahodd i un o'u digwyddiadau ymgysylltu i glywed sut mae Llywodraeth y DU yn parhau â’i throsglwyddiad i’r eFisa, a pha gamau y mae angen i bobl eu cymryd i greu cyfrif UKVI i gael mynediad i’w eFisa.  Maent hefyd yn awyddus i archwilio sut y gall eich sefydliad helpu i roi gwybod i bobl beth sydd angen iddynt ei wneud.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu yn y digwyddiad hwn:

  • Deall y llinell amser a’r camau y mae angen i bobl eu cymryd
  • Archwilio manteision statws mewnfudo digidol
  • Beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n gwneud cais am fisa nawr ac yn y dyfodol
  • Gwiriadau Hawl i Weithio
  • Deall pwysigrwydd sicrhau bod pobl yn cadw eu cyfrif UKVI yn gyfredol
  • Darganfod ble i ddod o hyd i wybodaeth, help a chymorth
  • Dysgu sut y gall eich sefydliad helpu i hwyluso'r trosglwyddiad hwn

Cofrestrwch i fynychu gan ddefnyddio'r dolenni isod.  Dim ond un digwyddiad sydd angen i chi fynychu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.