BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

World Travel Market 2024

Portmeirion

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyrwyddo eich busnes i'r Diwydiant Teithio rhyngwladol gan gynnwys gweithredwyr teithiau ac asiantaethau teithio?

Ymunwch a Chroeso Cymru yn World Travel Market (WTM), y prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio, a gynhelir rhwng dydd Mawrth 5 i ddydd Iau 7 Tachwedd 2024 yn ExCeL Llundain. 

Mae arddangos yn WTM yn cynnig cyfle unigryw i gyfarfod, rhwydweithio, trafod a gwneud busnes gyda mwy na 50,000 o weithwyr proffesiynol ym maes teithio rhyngwladol, o fwy na 38 sector o'r diwydiant teithio. Rydym wedi sicrhau lle i bartneriaid Cymru ar stondin UKinbound, sydd mewn lleoliad ardderchog yn rhan flaen Neuadd y DU ac Iwerddon.

I gymryd rhan mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb a’ch bod yn gallu contractio a gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio, a chynnig cyfraddau comisiwn / net. Rhaid i unrhyw ddarparwyr llety fod wedi'u graddio gan Croeso Cymru neu AA. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.

Pod Partner: £4,300 + TAW, os rhoddir cymhorthdal i dalu 50%, yn amodol ar reoliad MFA (SAFA / cymorth de minimis yn flaenorol). Cost y pod llawn yw £8,600 + TAW. 

I sicrhau eich pod, cofrestrwch erbyn 16 Awst 2024. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ac mae Croeso Cymru yn cadw’r hawl i gynnig lle ar sail y cyntaf i'r felin.

Am fanylion llawn a sut i gadw eich lle, cysylltwch â traveltradewales@llyw.cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.