BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Ganolfan Adnoddau ar gyfer Patentau Hanfodol Safonol

Patents, copyright symbol

Mae canolfan adnoddau Patentau Hanfodol Safonol (SEPs) newydd ar gyfer busnesau yn y DU sy’n chwilio am arweiniad ar sut i ganfod eu ffordd drwy’r ecosystem yma, sy’n aml yn gymhleth, wedi’i lansio gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU (UK IPO).

Gelwir patent sy'n amddiffyn technoleg a ystyrir yn hanfodol i weithredu safon dechnegol yn Batent Hanfodol Safonol. Mae safonau technegol yn ffyrdd y cytunwyd arnynt o nodi sut mae technolegau'n rhyngweithio â'i gilydd ac yn galluogi dyfeisiau i gyfathrebu'n ddi-dor â'i gilydd. Rydym yn dod ar eu traws yn gynyddol mewn bywyd bob dydd - er enghraifft, mewn ffonau clyfar a rhwydweithiau telathrebu, ceir, offer cartref, Cerbydau Awyr Di-griw (dronau), mesuryddion clyfar a dyfeisiau meddygol.

Mae'r canllawiau wedi'u rhannu'n 4 rhan:

  • Rhan 1: Canllawiau ar gyfer Safonau Technegol a Sefydliadau Datblygu Safonol
  • Rhan 2: Canllawiau ar gyfer Trwyddedu Patent Hanfodol Safonol
  • Rhan 3: Canllawiau ar gyfer Datrys anghydfodau a rhwymedïau mewn anghydfodau wrth Drwyddedu SEP
  • Rhan 4: Adnoddau ychwanegol

Lle i roi arweiniad yn unig yw Canolfan Adnoddau SEPs ac nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol, busnes, ariannol na chyngor proffesiynol arall ac ni ddylid dibynnu arno wrth wneud penderfyniadau busnes, cyfreithiol neu eraill sy’n ymwneud ag eiddo deallusol. Nid yw'r Swyddfa Eiddo Deallusol yn gyfrifol am y defnydd y gellid ei wneud o'r wybodaeth hon.

Cliciwch ar y doleni ganlynol i gael rhagor o wybodaeth:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.