Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi nodi ei blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mewn datganiad i'r Senedd ar 17 Medi 2024, ar ddechrau sesiwn yr hydref, ymrwymodd y Prif Weinidog i wneud cynnydd ar draws pedwar maes allweddol:
- 'Iechyd da' – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl; a gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd menywod
- Swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill; a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru
- Cyfle i bob teulu – hybu safonau mewn ysgolion a cholegau a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol, gan sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i lwyddo
- Cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau; a thrwsio ein ffyrdd a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: "Ry'n ni wedi gwrando, ry'n ni wedi dysgu ac ry'n ni'n mynd i gyflawni" – y Prif Weinidog yn cyhoeddi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU