Ar 19 Medi 2024, cadarnhaodd Llywodraeth y DU na fyddai'r trefniadau newydd o dan Fframwaith Windsor ar gyfer symud parseli a nwyddau a oedd i fod i ddod i rym o 30 Medi 2024 ymlaen yn dod i rym o'r dyddiad hwnnw ac y dylai busnesau fod yn gwbl barod ar eu cyfer erbyn 31 Mawrth 2025.
Mae CThEF wedi diweddaru eu canllawiau sy'n ymdrin â'r trefniadau newydd ar gyfer parseli busnes-i-fusnes, ymhle y byddai'r rhain yn berthnasol a phwysigrwydd gwneud cais am awdurdodiad Cynllun Marchnad Fewnol y DU (UKIMS).
Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:
- Apply for authorisation for the UK Internal Market Scheme if you bring goods into Northern Ireland - GOV.UK
- Future arrangements for moving parcels from Great Britain to Northern Ireland under the Windsor Framework - GOV.UK
- Internal Market Movements from Great Britain to Northern Ireland - GOV.UK
- How to bring your goods into Northern Ireland from Great Britain without paying duty - GOV.UK
Bydd CThEF yn cynnal gweminar ar 21 Tachwedd 2024 sy'n ymdrin â symudiadau parseli o dan Fframwaith Windsor. Gallwch gofrestru ar gyfer y weminar hon i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wybod.