BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi’n sefydliad trydydd sector yng Nghymru yn chwilio am help gyda digidol?

Social Media symbols - marketing team meeting

Mae DigiCymru yn wasanaeth yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Pa fath o gymorth sydd ar gael trwy DigiCymru?

  • Trosolwg o offer digidol a’u budd
  • Cefnogi sefydliadu i adeiladu, defnyddio, ac iteru offer eu hunain. Dangos ffyrdd y gallant adeiladu pethau eu hunain yn hytrach na phrynu i mewn i bethau eraill
  • Cefnogi sefydliadau i ddatrys unrhyw broblemau technoleg

Pwy sy’n gallu cael mynediad iddo?

  • Elusennau
  • Sefydliadau dielw
  • Mentrau Cymdeithasol (bydd rhaid cael Clo Asedau neu fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol gyda chlo asedau)
  • Grwpiau cymunedol neu wirfoddol (nid oes rhaid bod yn sefydliad cofrestredig)

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: DigiCymru - ProMo Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.