BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn croesawu Cyllideb gyntaf Llywodraeth y DU newydd

Welsh Flag

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi croesawu Cyllideb gyntaf Llywodraeth newydd y DU a'r £1.7bn ychwanegol y bydd yn ei olygu i Gymru dros ddwy flynedd.

Mae setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 dros £1bn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y DU. Gan gymryd 2024-25 a 2025-26 gyda'i gilydd, mae'r setliad oddeutu £1.7bn yn uwch o'i gymharu â'r hyn y byddai wedi bod.

Roedd Cyllideb y DU yn cynnwys y canlynol ar gyfer Cymru:

  • £1.7bn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi cyfalaf yng Nghymru.
  • £25m i gefnogi buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru i wneud tomenni glo yn ddiogel.
  • Symud i'r cam nesaf ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd gan ddynodi'r safleoedd treth.
  • Cefnogaeth i brosiectau hydrogen gwyrdd yn Aberdaugleddau a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Dod â'r anghyfiawnder ynghylch cronfa bensiwn glowyr i ben.
  • Cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i ddegau o filoedd o weithwyr yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyllideb y DU, dewiswch y ddolen ganlynol: Autumn Budget 2024 - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.