BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Arwain Agweddau

Mae yn yr adran hon nifer o ddarnau arweinyddiaeth meddwl arbenigol i'ch helpu i ddeall sut y gallwch greu gweithlu amrywiol, nodi bylchau cyflog, a sut i'w lleihau. Cliciwch ar bob pwnc i ddarganfod mwy o wybodaeth.

Yn yr adran hon

Yn y darn Arweinyddiaeth Meddwl hwn ynghylch Gwobrwyo Teg, mae Harry Thompson, Uwch Arweinydd Rhaglen a Pholisi: Gwaith Teg a'r Economi, yn Cynnal Cymru, yn trafod manteision y Cyflog Byw Gwirioneddol i fusnesau yng Nghymru.

Llais y Gweithwyr yw un o egwyddorion sylfaenol Gwaith Teg. Mae Edmund Heery, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhannu ei feddyliau ar yr egwyddor sylfaenol hon o Waith Teg.

Gyda mwy o weithwyr yn edrych am swyddi gyda chyfle i gael mynediad, twf a chynnydd, dyma Sam Stensland, Uwch Arweinydd, Cymru, yn BITC Cymru, yn siarad am y modd y gall cyflogwyr fod yn ymwybodol o'r cyfleoedd hyn o fewn eu gweithlu.

Mae parchu hawliau cyfreithiol yn y gweithle yn rhywbeth y dylai pob busnes lynu ato. Yma, mae Nathan Vidini, Pennaeth Cyflogaeth yn AltraLaw yn trafod sut y gall busnesau ddeall arferion gorau i osgoi anghydfodau yn y gweithle.

Mae amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol yn hynod bwysig, a gall fod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr. Dyma Lucy Reynolds, Prif Swyddog Gweithredol yn Chwarae Teg yn trafod sut y gall busnesau sicrhau amgylchedd gwaith iach, a sut y gall technolegau newydd gefnogi hyn.

Mae'r daith Gwaith Teg yn ymwneud â chael yr agwedd gywir, y diwylliant cywir a'r arferion gorau ar waith i gefnogi pobl. Dyma Laura Fordham, Cyfarwyddwr Masnachol yn Chwarae Teg yn cynnig ei barn ar ddiogelwch a hyblygrwydd yn y gweithle.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.