Beth ydyw a pham ei fod yn bwysig
Mae Tâl Teg yn golygu bod cyflogwyr yn talu digon i weithwyr i ddiwallu eu hanghenion a chynnig buddion fel gwyliau blynyddol, tâl salwch, a phensiynau sy'n well na'r isafswm cyfreithiol. Mae gan gyflogwyr sy'n gweithio gydag undebau llafur fantais wrth osod yr amodau hyn.
Fel cyflogwr, rydych chi'n gwybod mai gwobrwyo gweithwyr yn deg a'u trin ag urddas a pharch yw'r peth iawn i'w wneud. Mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod gwaith annheg yn cael effaith andwyol ar les corfforol a meddyliol gweithwyr. Ond yn ogystal â'r manteision amlwg i weithwyr, mae hefyd rheidrwydd busnes clir i sefydliadau gyflwyno polisïau Gwobrwyo Teg, gan fod gweithwyr yn cynhyrchu mwy, ac yn ymrwymo mwy yn eu gwaith o’i herwydd.
Isod, cewch wybodaeth i’ch helpu chi i ddeall beth yn union sydd angen ei ystyried er mwyn gallu trin eich gweithwyr yn deg.
Sut mae busnesau yn sicrhau eu bod yn talu cyfraddau sy'n cynrychioli gwobr deg?
Canllawiau ar sut y gall eich busnes chi sicrhau eich bod yn talu cyfraddau sy'n cynrychioli gwobr deg am y gwaith a wnaed.
Sut ydych chi'n dod yn gyflogwr achrededig Cyflog Byw Gwirioneddol? A yw'n anodd cyflawni'r statws?
Mae dod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig yn dangos ymrwymiad i roi gwobr deg i weithwyr cyfredol a gweithwyr yn y dyfodol ac yma, mae Clare Sain-Ley-Berry, Cyfarwyddwr Dros Dro yn Cynnal Cymru, yn esbonio sut y gallwch ddod yn gyflogwr achrededig.
Beth mae tryloywder cyflog yn ei olygu? A sut y gellir ei gyflawni?
Dyma Clare Sain-Ley-Berry, Cyfarwyddwr Dros Dro Cynnal Cymru, yn trafod sut mae cyflog gweithwyr yn cael ei bennu a sut orau i ddangos tryloywder ar draws eich busnes.
Sut ddylai busnesau fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â bylchau cyflog rhywedd, hil ac anabledd fel rhan o'u hymrwymiad i wobr deg?
Dylai eich busnesau fynd i'r afael â materion fel recriwtio, gwerthuso swyddi a dylunio swyddi gyda ffocws ar fynd i'r afael â chydraddoldebau cyflog rhyw, hil ac anabledd fel rhan o'ch ymrwymiad i wobr deg. Dyma Clare Sain-Ley-Berry, Cyfarwyddwr Dros Dro yn Cynnal Cymru, yn egluro sut y gallwch wneud hyn.
Sut dylai cyflogwyr ymateb i heriau recriwtio a chadw staff gyda gwell tâl ac amodau o ystyried y pwysau ariannol y mae llawer o fusnesau yn eu hwynebu?
Yma mae Cyfarwyddwr Dros Dro yn Cynnal Cymru, Clare Sain-Ley-Berry, yn siarad am yr heriau recriwtio a chadw staff ar draws sectorau busnes amrywiol a sut y mae'n rhaid i'ch busnes ystyried ymateb gyda chyfraddau tâl gwell a thelerau ac amodau gwell.
Beth yw’r manteision i gyflogwyr o gynnig mwy na'r hawliau statudol fel rhan o wobr deg?
Yma mae Clare Sain-Ley-Berry, Cyfarwyddwr Dros Dro yn Cynnal Cymru, yn rhoi arweiniad ynghylch a all cynnig mwy na'r isafswm statudol ar gyfer buddion fel tâl salwch, gwyliau blynyddol a hawliau absenoldeb mamolaeth/tadolaeth arwain at amryw o fanteision.
Sut mae busnesau yn dechrau mynd ati i greu'r amgylchedd hwn? A beth ddylen nhw ei flaenoriaethu?
Yma, mae Cyfarwyddwr Dros Dro yn Cynnal Cymru, Clare Sain-Ley-Berry, yn esbonio sut y gall eich busnes greu amgylchedd lle mae gwobr deg i weithwyr yn cael ei barchu fel rhan o ddull llawer ehangach o ymdrin â'r agenda gwaith teg.
Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud
Mae Busnes Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar bob un o’r chwe thema a nodwyd er mwyn i BBaChau ddeall ac i weithio’n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Pecynnau Adnoddau
Lawr lwythwch y pecyn adnoddau Gwobrwyo Teg a fydd yn eich cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.