BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Llais y Gweithiwr a Chynrychiolydd ar y Cyd

Beth ydyw a pham ei fod yn bwysig

Un o egwyddorion craidd Gwaith Teg yw sicrhau bod gan weithwyr lais. Gall busnes ddangos ei ymroddiad i'r egwyddor hon drwy ddangos cynrychiolaeth gyfunol, sy'n cynnwys caniatáu mynediad i undebau llafur, eu cydnabod a chadw at gytundebau ar y cyd lle bo hynny'n berthnasol. 

Waeth beth fo'r maint, y sector neu'r lleoliad, gall unrhyw fusnes elwa o gydweithio ag undebau llafur. Maent yn darparu cymorth gwerthfawr wrth symleiddio prosesau negodi, datrys materion yn gynnar, gwella ymgysylltiad a boddhad gweithwyr, mynd i'r afael â phryderon iechyd a diogelwch, a chynorthwyo gyda hyfforddiant a datblygiad. 

Er bod dulliau eraill o ymgysylltu â gweithwyr, nid oes yr un yn cynnig yr un manteision ag ymgysylltu trwy undeb llafur. Dylai'r dulliau amgen hyn ategu, nid disodli, y gynrychiolaeth gyfunol y mae undebau llafur yn ei darparu.

Beth yw'r manteision i'r berthynas gyflogaeth a'r busnes ehangach pan fydd lleisiau gweithwyr – yn unigol ac ar y cyd - yn cael eu clywed a'u cynrychioli?

Canllawiau ar sut y dylai eich busnes sicrhau bod lleisiau gweithwyr – yn unigol ac ar y cyd - yn cael eu clywed a'u cynrychioli. Dyma Leon Gooberman, Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod y manteision amrywiol i'r berthynas gyflogaeth a'r busnes ehangach.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut gall busnesau wella ymgysylltiad â'u gweithlu a'u cynrychiolwyr o ran prosesau gwneud penderfyniadau?

Dyma Leon Gooberman, Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhoi arweiniad ar sut y gall eich busnes wella ymgysylltiad â'r gweithlu drwy gynnwys gweithwyr a'u cynrychiolwyr mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut allwn ni gynyddu cyfleoedd am adborth amser real rhwng digwyddiadau adborth wedi'u trefnu?

Dyma Leon Gooberman, Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhoi enghreifftiau ar sut i greu mwy o gyfleoedd am adborth amser real rhwng digwyddiadau adborth wedi'u trefnu fel arfarniadau neu arolygon cyfnodol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut ydyn ni'n sicrhau bod amrywiaeth llais gweithwyr yn cael ei gynrychioli?

Dyma Leon Gooberman, Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod arferion gorau o ran y modd y gall eich busnes sicrhau bod amrywiaeth llais gweithwyr yn cael ei gynrychioli a'i glywed.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Sut gall cyflogwyr feithrin diwylliant yn y gweithle lle mae staff yn teimlo'n gyfforddus yn mynegi eu barn, yn codi pryderon gyda ffydd y byddant yn cael eu clywed?

Dyma Leon Gooberman, Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod sut y gall eich busnes greu diwylliant yn y gweithle lle mae staff yn teimlo'n gyfforddus yn mynegi eu hunain, gan godi pryderon a chyda ffydd y bydd eu lleisiau'n cael eu clywed heb ofni sgil-effeithiau negyddol.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Lle dylai busnesau ddechrau wrth gychwyn ar eu taith gwaith teg? A oes yna faes y dylid ei flaenoriaethu?

I fusnesau sy'n cychwyn ar y daith hon, gall cyflawni pob agwedd ar waith teg godi braw arnynt ond gyda'n canllawiau o'n cyfres o chwe thema, maent yn hawdd i’w cyflawni.

Rhaid caniatau cwcis trydydd part i’r fideo hwn chwarae yma.

Beth mae'r arbenigwyr yn ei ddweud:

Mae Busnes Cymru wedi gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant ar bob un o’r chwe thema a nodwyd er mwyn i BBaChau ddeall ac i weithio’n effeithiol o fewn egwyddorion Gwaith Teg.

Pecynnau Adnoddau

Lawr lwythwch y pecyn adnoddau Llais y Gweithiwr a Chynrychiolydd ar y Cyd a fydd yn eich cefnogi i wneud newidiadau i'ch busnes i ddod yn gyflogwr Gwaith Teg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.