BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Lladrata Hawlfraint

Lladrata, neu dramgwyddo, hawlfraint yw amharu ar hawlfraint unigolyn neu sefydliad. Mae’n golygu defnyddio, heb awdurdod, ddefnyddiau megis testun ysgrifenedig, ffotograffau, fideos, cerddoriaeth, meddalwedd a chynnyrch gwreiddiol eraill. Gyda dyfodiad y rhyngrwyd, a ffyrdd haws o rannu defnyddiau, daeth lladrata hawlfraint yn fwy cyffredin.  

Effeithiau

Pan fydd defnyddiau o dan hawlfraint yn cael eu rhannu’n rhad ac am ddim ar y rhyngrwyd, nid yw deilydd yr hawlfraint yn cael ei daliadau hawlfraint. Os yw defnyddiau o dan hawlfraint yn cael eu gwerthu drwy sianelau anghyfreithlon, mae’r elw yn aml yn mynd i ariannu troseddau eraill.  

Rhwystro

Rhag amharu ar eich gwaith ar lein, cyfyngwch ar y mannau lle y gellir ei weld. Gall delweddau dyfrnodau hefyd fod o help i olrhain eich gwaith yn ôl atoch chi. O ran cerddoriaeth a ffilmiau, dylid cyfyngu ar y copïau rhagolwg a’u rhannu’n ddarbodus. Rhywun yn gollwng copi rhagolwg sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o gyhoeddi heb ganiatâd. 

Riportio

Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Safonau Masnach lleol am gyngor ar dramgwyddiadau Eiiddo Deallusol. 

Rhagor o wybodaeth llawrlywtho


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.