BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Hydref 2024

Mae'r diweddariad hwn i randdeiliaid yn dwyn ynghyd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y system ardrethi annomestig yng Nghymru.

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26

Bydd cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cael eu nodi pan fyddwn yn cyhoeddi ein Cyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr, yn dilyn Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU ar 30 Hydref. Rydym yn deall y bydd trethdalwyr yn dymuno gwybod manylion trefniadau ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys lefel y lluosydd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadarnhau ochr yn ochr â chyhoeddiad y Gyllideb Ddrafft a'i chynnwys yn ein diweddariad nesaf.

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (Deddf 2024) ar 16 Medi. O safbwynt ardrethi annomestig, mae'r Bil yn mynd i'r afael â'r rhan fwyaf o'r cynigion a nodwyd yn ein hymgynghoriad ar ddiwygio ardrethi annomestig yn 2022.

Roedd y diweddariad blaenorol i randdeiliaid (Gorffennaf 2024) yn cynnwys gwybodaeth bellach am weithredu’r newidiadau a fydd yn dod i rym ddeufis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol ar gyfer Deddf 2024 (gwyddom bellach mai 16 Tachwedd 2024 fydd hyn). Mae'r newidiadau hyn fel a ganlyn: 

  • ymarfer ailbrisio yn 2026 a phob tair blynedd wedi hynny (adrannau 2 a 3);
  • ehangu'r diffiniad o adeilad newydd at ddibenion cyflwyno hysbysiadau cwblhau (adran 7);
  • symleiddio rhyddhad yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol drwy gael gwared ar y terfyn amser (adran 8).

Bydd y diweddariad hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am weithredu’r newid a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2025, sef:

  • cryfhau'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer rhyddhad elusennol i eiddo heb eu meddiannu (adran 6).
Rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo gwag

Darperir rhyddhad elusennol llawn ar gyfer eiddo gwag lle mae'r trethdalwr yn elusen neu'n glwb chwaraeon amatur cymunedol (CASC) a bod yr holl feini prawf cymhwysedd yn cael eu bodloni. O 1 Ebrill 2025, bydd newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf 2024 yn cryfhau'r meini prawf cymhwysedd i fynd i'r afael â chamfanteisio ar y rhyddhad hwn at ddibenion osgoi talu'r dreth. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar ryddhad ar gyfer eiddo gwag, i ddarparu rhagor o wybodaeth i awdurdodau lleol a thalwyr ardrethi am y meini prawf cryfach a'r gofynion tystiolaeth cysylltiedig.

Rhyddhad elusennol i ysgolion preifat

Yn 2020, gwnaethom ymgynghori ar gymhwysedd ysgolion preifat ac ysbytai i dderbyn rhyddhad elusennol. Yn dilyn yr ymgynghoriad, cadarnhawyd y byddem yn rhoi ystyriaeth bellach i'r opsiynau polisi, gan ymgynghori ymhellach ar unrhyw gynigion penodol ar gyfer cyflwyno newidiadau. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi cynnig i dynnu rhyddhad elusennol yn ôl o ysgolion preifat, o 1 Ebrill 2025. Mae ymgynghoriad ar y cynnig hwn ar agor tan 16 Rhagfyr 2024.

Ymgyngoriadau ar ardrethi annomestig

Mae pob ymgynghoriad yn berthnasol i Gymru yn unig.

Rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ar gyfer ysgolion preifat - ar agor

Mae ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu rhyddhad elusennol yn ôl ar gyfer ysgolion preifat ar agor am ddeuddeg wythnos, rhwng 23 Medi a 16 Rhagfyr 2024.

Rhagor o wybodaeth

Croesawn adborth ar y diweddariad hwn i randdeiliaid. Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau neu ymholiadau at: polisitrethilleol@llyw.cymru.

Mae'r diweddariad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer mis Ionawr 2025 (am y tro).

Dolenni defnyddiol:
Llywodraeth Cymru
Busnes Cymru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Tribiwnlys Prisio Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Senedd Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.