Mae ffermwyr yn cael y cyfle i dreialu arloesiadau a thechnolegau newydd ym myd ffermio cyn i Gymru drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gan fod Cyswllt Ffermio yn recriwtio ffermydd i dreialu prosiectau ar y fferm.

Dechreuodd rhaglen trosglwyddo gwybodaeth newydd Cyswllt Ffermio ar 1 Ebrill 2023 gan Llywodraeth Cymru, sydd bellach yn chwilio am fusnesau i ymuno â ‘Rhwydwaith Ein Ffermydd’.

Bydd y ffermydd yn cael y cyfle i gynnal treialon a phrosiectau wedi'u hariannu ar agweddau ar ffermio y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt ac y maent yn disgwyl i fod o fudd i'w busnesau.

Bydd ffocws ar arloesi a thechnolegau newydd i’w helpu nhw a ffermydd eraill Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2050, ac i adeiladu gwytnwch a chynaliadwyedd yng nghanol hinsawdd sy’n newid.

Bydd y ffermydd yn elwa ar gymorth prosiect sylweddol ac arweiniad gan arbenigwr diwydiant sector-benodol a ariennir yn llawn.

Dywedodd Pennaeth Technegol Cyswllt Ffermio, Siwan Howatson, fod ffermydd a fu’n rhan o’r rhwydwaith yn flaenorol wedi dysgu pa systemau ac arferion sy’n gweithio’n dda – a pha rai nad ydynt ar gyfer eu ffermydd unigol.

“Maen nhw nawr mewn sefyllfa gystadleuol gryfach, mewn sefyllfa well i ddelio ag ansefydlogrwydd y farchnad, i ffynnu a llwyddo,” meddai.

Maent yn cynnwys Llion a Siân Jones, sy'n ffermio ym Moelogan Fawr, ger Llanrwst.

Dywedodd y teulu Jones fod eu gwaith fel safle arddangos wedi bod yn “gyfle gwych” i ddadansoddi agweddau penodol o’r fferm i wella proffidioldeb a diogelu’r busnes at y dyfodol.

“Roedd y ddau brosiect yn ymwneud â chasglu a dadansoddi data i wella iechyd ac effeithlonrwydd diadelloedd a buchesi; mae hyn wedi ein galluogi i nodi'r stoc sy'n perfformio orau ar ein fferm ucheldir.''

Nid ffermydd fel Moelogan Fawr yn unig a gafodd fudd o’r prosiectau hynny – roedd y treialon wedi ysbrydoli ac annog llawer o rai eraill i roi ffyrdd arloesol o weithio ar waith ac i gyflwyno technolegau newydd i wella perfformiad, meddai Mrs Howatson.

“Bydd y recriwtiaid newydd yn parhau i roi'r ysbrydoliaeth a'r anogaeth hon i eraill hefyd i ystyried sut y gallant gynyddu cynaliadwyedd hirdymor eu busnesau cyn y CFfC newydd,'' dywedodd.

Mae ffermydd yn cael eu recriwtio o’r sectorau llaeth, cig coch, moch, dofednod, âr a garddwriaeth, a ffermydd â choetir hefyd.

Gellir cyflwyno ceisiadau i fynegi diddordeb o ddydd Llun 3 Ebrill 2023 tan 10am dydd Llun 17 Ebrill 2023 ar wefan Cyswllt Ffermio.

Dywedodd Mrs Howatson eu bod yn chwilio am geisiadau gan unigolion awyddus, uchelgeisiol a blaengar sydd am ddatblygu eu busnesau dros y ddwy flynedd nesaf.

“Rydym yn awyddus i glywed gan ffermwyr sy’n barod i agor eu drysau i ffermwyr eraill o’r un anian i ddysgu a rhannu arfer gorau a syniadau newydd ar gefn prosiectau ar y fferm a chanlyniadau treialon i ysgogi arloesedd ar draws y diwydiant ffermio yng Nghymru drwy ddigwyddiadau ar y fferm, digwyddiadau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol,'' meddai.

Gall ffermydd fod yn rhan o'r rhwydwaith am flwyddyn neu ddwy. Byddant hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau aml-safle Cymru gyfan tebyg i Brosiect Pridd Cymru Cyswllt Ffermio.