LG Minister

Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu bod mwy na £66 miliwn ar gael er mwyn parhau i sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol i Gymru, sy'n rhan allweddol o fanteisio i’r eithaf ar rym amddiffynnol natur drwy ffermio.

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi y bydd contractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn cael eu hestyn tan fis Rhagfyr 2023.

Mae'r Gweinidog hefyd yn dweud mai'r bwriad yw parhau â Chynllun y Taliad Sylfaenol tan 2023, yn amodol ar adolygiad cynhwysfawr Llywodraeth y DU o wariant.

Mae dros 1.3 miliwn hectar o dir amaethyddol Cymru o dan gontract Glastir ac mae parhau â'r cynllun yn sicrhau bod safleoedd ac ardaloedd â blaenoriaeth yng Nghymru yn cael eu rheoli'n effeithiol er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol.

Mae hyn yn cynnwys gwarchod a gwella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, gwella’n hadnoddau pridd a dŵr, adfer cynefinoedd mawnogydd a chyfrannu at ddatgarboneiddio amaethyddiaeth Cymru.

Bydd pob un cymwys sydd â chontract ar hyn o bryd yn cael cynnig estyniad drwy eu cyfrifon ar RPW ar-lein.

Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod £7 miliwn arall ar gael i estyn y rhaglen Cyswllt Ffermio tan fis Mawrth 2023. 

Mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn allweddol wrth ddarparu cymorth busnes pwysig i filoedd o ffermwyr a choedwigwyr ledled Cymru.

Mae’r cymorth hwnnw wedi cynnwys nodi meysydd lle gallent wella, datblygu sgiliau a helpu i ddod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon ac arloesol o weithio.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Dw i'n falch iawn o fedru sicrhau bod £66.79 miliwn ar gael drwy gontractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig tan fis Rhagfyr 2023.

Mae'r rhaglen yn hanfodol er mwyn cefnogi’n ffermwyr a bydd yr estyniad hwn yn ein helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o effaith camau gweithredu ac ymyriadau Glastir. Bydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol.

Dw i hefyd yn falch y bydd £7 miliwn arall ar gael i gynnal Cyswllt Ffermio tan fis Mawrth 2023.

Bydd hyn yn helpu i greu sector tir mwy proffesiynol, proffidiol a chadarn, wrth inni fynd i’r afael â sawl her a chyfle, gan gynnwys lleihau allyriadau’r holl nwyon tŷ gwydr i sero-net erbyn 2050, ac ymdopi ag amgylchedd masnachu sy'n newid drwy’r amser i'r diwydiant.

Ar ôl ymweld â ffermydd ym mhob cwr o Gymru, dw i wedi gweld â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y mae Cyswllt Ffermio yn ei chael ar fywoliaeth ein ffermwyr, a dw i’n edrych ’mlaen at weld mwy o fudd iddyn nhw, diolch i'r cyhoeddiad hwn heddiw.

Mae newid sylweddol a phwysig ar y gorwel a fydd yn rhoi dyfodol sefydlog a chynaliadwy i'r diwydiant ac i gymunedau gwledig Cymru. Yn y cyfamser, bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau tan 2023, yn amodol ar gyllid oddi wrth Lywodraeth y DU, er mwyn rhoi cymorth i ffermwyr wrth inni weithio gyda'n gilydd i groesi’r bont at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.