BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Claire Hill Designs

Claire Hill Designs

Rwy’n falch o fod yn rhan o’r Addewid Twf Gwyrdd, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnes er gwell. Er mwyn y blaned, y bobl a’r cwsmeriaid, mae’n bwysig parhau i wella a buddsoddi mewn ffyrdd newydd a gwell o greu a rhedeg busnesau.

Roedd Claire Hill, perchennog Claire Hill Designs, busnes gemwaith yng Nghaerdydd, eisiau gwella ei chynaliadwyedd, a sefydlu cadwyni cyflenwi moesegol. Gyda chynghorydd cynaliadwyedd, bu’n trafod ei hamcanion a’r nodau yr oedd hi wedi ymchwilio iddynt yn flaenorol, fel darparu deunydd pacio a labelu y gellir ei gompostio. Adolygodd ei chynghorydd ein buddion Addewid Twf Gwyrdd gyda Claire, ac mae hi bellach wedi eu cyflwyno i’w busnes ac wedi ymrwymo iddynt! 

Os hoffech gyngor ac arweiniad ychwanegol ar gynaliadwyedd busnes, cysylltwch â’n tîm heddiw. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.