BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Llywodraeth Cymru yn helpu 1,100 o bobl ddi-waith sy’n wynebu rhwystrau cudd i ddechrau eu busnes eu hunain

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi bod mwy na 1,100 o bobl ddi-waith sy’n wynebu rhwystrau cudd sy’n eu hatal rhag cymryd rhan yn y farchnad lafur wedi cael cymorth i ddechrau eu busnes eu hunain diolch i gynllun grant Llywodraeth Cymru.

Mae Sami Gibson yn un ohonynt sy’n fam sengl, ddi-waith a oedd yn benderfynol o greu bywyd gwell iddi hi ei hun a'i phlentyn. Roedd gan Sami freuddwydion am sefydlu ei busnes ei hun ond roedd yn wynebu sawl rhwystr - doedd ganddi ddim gliniadur na chysylltiad rhyngrwyd ac roedd yn byw mewn lleoliad gwledig, anghysbell.

Diolch i gymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, mae Sami wedi sefydlu busnes newydd o'r enw Roots, sy'n tyfu ac yn gwerthu perlysiau a phlanhigion eraill mewn ffordd gynaliadwy.

Mae Roots hefyd yn creu cymysgeddau fel perlysiau ar gyfer stwffin sy’n cynnwys llus gwyllt, halen capan cornicyll, a pherlysiau saws pitsa.

Cafodd Sami Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes gwerth £2,000, ac roedd yn defnyddio hynny i brynu offer a deunyddiau marchnata ar gyfer ei busnes newydd.

Grant refeniw yw'r Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer Pobl 25 oed a Hŷn oed sydd yn economaidd anweithgar a di-waith i ddechrau busnes yng Nghymru.

Mae'n targedu unigolion sy'n wynebu rhwystrau rhag dechrau eu busnes eu hunain neu fynd i mewn i'r farchnad lafur. Mae'n rhan o becyn cymorth sy'n cynnwys cyngor a gweminarau un-i-un i fagu hyder mewn arferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.

Dysgwch sut y gallai Busnes Cymru eich helpu chi yn mynnwch gymorth. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.