BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dydd Sadwrn y Busnesau Bach 2022

Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach (SBS) eleni, diwrnod lle caiff siopwyr eu hannog i wario gyda chwmnïau lleol, ar 3 Rhagfyr 2022.

Anogir pob mathau o fusnesau bach i gymryd rhan, felly p’un ai ydych chi’n fusnes teuluol, yn siop leol, yn fusnes ar-lein, yn gyfanwerthwr, yn wasanaeth busnes neu’n gwmni gweithgynhyrchu bach, cofiwch fod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn eich cefnogi!

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y Busnesau Bach

Helo Blod yw’r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen. Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i'ch busnes. Am fwy o wybodaeth ewch yma - https://businesswales.gov.wales/heloblod/cy/helo-blod 

Gwasaneth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS), cyrsiau digidol sydd wedi cael eu creu gan arbenigwyr pwnc Busnes Cymru i’ch helpu i sefydlu a rhedeg busnes yn llwyddiannus.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.