Helo Blod

Siop Coffi

Dyma'r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes neu elusen a chyfieithiadau hefyd. Ac mae’r cwbl lot am ddim!

Heb sgwennu yn Gymraeg am sbel? Dim ots! Mae Helo Blod yma i helpu. Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth dy hun? Fe wnaiff Helo Blod wirio'r cwbl i ti, jyst picia draw i'r tab nesaf (Gwirio Testun)

Fel arall, gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i dy fusnes.

Mae'n hawdd ‒ picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi, mewn â ti, rho'r testun Saesneg i'w gyfieithu i mewn, ac fe wnaiff Helo Blod y gwaith caled i ti. A dyna ni!

Bydd dy gyfieithiad yn cael ei ddychwelyd cyn pen 4 diwrnod gwaith, neu 1 diwrnod gwaith am 5 gair neu lai

Gall Helo Blod dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg gyda hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun bob mis.

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. 

 

Beth am roi cynnig ar ddrafftio rhywbeth yn Gymraeg dy hun. Gall Helo Blod helpu i fagu dy hyder wrth ysgrifennu. Paid â phoeni am gamgymeriadau ‒ mae Helo Blod yma i wirio pob testun, nid i farnu! 

Bydd Helo Blod yn tacluso, ac yn rhoi adborth ac awgrymiadau i ti o fewn 4 diwrnod gwaith. Mae Helo Blod yn gallu gwirio 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim, felly byddi di'n hyderus bod y deunydd rwyt ti'n ei ddefnyddio yn Gymraeg yn gywir.

Gall Helo Blod dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg gyda hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun bob mis.

Jyst i ti wybod, os byddi di'n cynnwys fersiynau Cymraeg a Saesneg y testun, bydd y Saesneg yn cael ei defnyddio at ddibenion cyfeirio yn unig a fyddwn ni ddim yn ei gwirio. Os nad ydy'r fersiwn Saesneg yn cael ei ddarparu, all Helo Blod ddim bod yn gyfrifol am unrhyw anghysondebau o ran tôn neu ystyr. Picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi isod i ddechrau arni!

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. 

Mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu ti i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes - hyd at 10 ymholiad / cais cyfieithu neu wirio testun fesul mis calendr.

Gallai hyn fod yn rhywbeth mor syml ag archebu laniard a/neu fathodyn Iaith Gwaith i nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu'n dysgu Cymraeg, clicia ar Mae gen i gwestiwn/ymholiad ar ôl gwneud cais newydd i archebu.

Ac os oes angen unrhyw beth ychwanegol arall, fe wnaeth Helo Blod gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu. Picia draw i dy gyfrif Helo Blod a Fi i ddechrau arni!

Oes gen ti gwestiwn am Helo Blod?  Falle bod yr ateb yn ein cwestiynau cyffredin (FAQs)

Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell.

Mae Helo Blod eisiau helpu pawb, ond mae ambell gyfyngiad i'r hyn allwn ni ei wneud. Ni all Helo Blod:

Darparu unrhyw wasanaeth i sefydliadau neu unigolion (1) y gallai eu gweithgareddau yn ein barn ni ddwyn anfri ar Lywodraeth Cymru gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i (i) ddibenion pleidiau wleidyddol, (ii) hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol; (iii) gamblo, (iv) pornograffi, (v) cynnig gwasanaethau rhywiol neu (vi) unrhyw fath o weithgareddau anghyfreithlon (2) y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth y Gymraeg (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i Safonau'r Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 neu gynlluniau iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993) (3) a allai, yn ein barn ni, ei ailwerthu neu ei chamarwain fel eu cynlluniau eu hunain neu (4) sydd eisoes yn derbyn cyllid grant yn benodol er mwyn cyfieithu deunyddiau.  Yn ogystal, ni allwn brosesu unrhyw wybodaeth fasnachol sensitif nag aseiniadau gwaith cartref. 

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais a allai, yn ein barn ni, fod yn niweidiol i bolisïau Llywodraeth Cymru gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw bolisïau newydd gan Lywodraeth Cymru, y gellir eu cyhoeddi. 

Ein nod yw dychwelyd eich cyfieithiad/ darn gwirio testun i chi o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn eich cais ond nodwch y gallai'r amserlen hon amrywio.

Gweler telerau ac amodau Busnes Cymru isod am ragor o wybodaeth.