BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofal Cymdeithasol a’r Hinsawdd

Mae’r mandad i’r gymuned Iechyd a Gofal Cymdeithasol weithredu ar yr argyfwng hinsawdd yn gryfach nag erioed – mae’n amser gweithredu:

Dylech wybod:

  • Allyriadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r mwyaf yn y sector cyhoeddus
  • Mae angen i’r Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol leihau allyriadau o leiaf 16% erbyn 2025 a 34% erbyn 2030
  • Bydd y Cynllun Datgarboneiddio Gofal Cymdeithasol i gefnogi’r sector ar y daith hon yn cael ei gyhoeddi yr haf hwn

Ysbrydoliaeth a chymryd rhan:

  • Os ydych chi’n ddarparwr bach neu ganolig (llai na 250 o weithwyr) gallech lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd i wneud ymrwymiad i leihau eich ôl-troed carbon. Bydd Busnes Cymru yn eich cefnogi gyda hyn, yn ogystal â chynnig cymorth ardderchog – am ddim
  • Os ydych yn ddarparwr gofal cymdeithasol mwy, peidiwch â phoeni! Gallech ystyried gweithio tuag at Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd 
  • Mae Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC) yn rhaglen 10 mis a ariennir yn llawn lle gallwch gwrdd â phobl debyg i chi a chreu datrysiadau gwasanaeth newydd, i leihau effaith gofal cymdeithasol ar yr hinsawdd – e-bostiwch ceic@cardiffmet.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth

Os hoffech chi wybod mwy neu ddod yn hyrwyddwr gofal cymdeithasol, neu os hoffech chi rannu syniadau neu ysbrydoliaeth o’ch ardal chi cysylltwch â: HSC.ClimateEmergency@llyw.cymru 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.