Croeso i'r Gronfa Pontio Gadwyn Cyflenwi Tata Steel UK (TSUK)
Nod yr adnodd gwirio cymhwysedd isod yw canfod a allech fod yn gymwys i gael cymorth drwy'r gronfa hon. Nid ffurflen gais ydyw, ac os ydych yn gymwys bydd Busnes Cymru yn cysylltu â chi i gael trafodaeth fanylach am eich busnes a'r heriau rydych yn eu hwynebu. Gallai hynny gynnwys gwneud cais am gyllid.
Mae'r broses yn un syml, a dylech ateb pob cwestiwn yn onest ac yn gywir. Os byddwch yn bodloni'r meini prawf, cewch gyfarwyddiadau pellach ar sut i symud ymlaen.
Oherwydd ein bod yn gwybod y bydd yr effaith ar rai busnesau yn fwy nag ar eraill, rhoddir blaenoriaeth i'r rhai oedd â mwy na 50% o'u trosiant yn dibynnu ar TATA yn ystod y 12 mis diwethaf ac sy’n disgwyl gweld gostyngiad o 30% o leiaf yn eu trosiant dros y 2 flynedd nesaf.
Gellir cael rhagor o arweiniad ar dudalen Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi ar gyfer Tata Steel UK (TSUK) NPTCBC.