Diolch i Busnes Cymru, llwyddais i agor fy stiwdio recordio fy hun.
Cysylltodd Tom Wathen â ni gan ei fod eisiau dechrau ei fusnes ei hun fel peiriannydd a thechnegydd sain a recordio, ond roedd angen cyngor a chymorth ychwanegol arno ynghylch cyllid.
Helpodd ei gynghorydd busnes ef drwy’r broses ymgeisio Rhwystrau rhag Dechrau, pan fynychodd Thomas weminar a chael cyngor busnes un i un, cyn derbyn y grant ar ôl hynny.
Erbyn hyn mae Thomas wedi llwyddo i agor ei fusnes, 1013 STUDIOS, ac wedi creu swydd lawn amser iddo’i hun.
Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod sut y gallwn eich helpu chi!