Gyda chymorth Busnes Cymru, roeddwn yn gallu dechrau fy musnes Golygu Fideo a’i ddatblygu. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy i mi.
Roedd Brian Hedges-Webb wastad wedi rhagweld rhedeg ei fusnes golygu fideo, ond nid oedd yn gallu datblygu ei syniad oherwydd prinder cyllid a hyder busnes.
Mae Brian wedi bod yn gweithio gyda Busnes Cymru am gwpl o flynyddoedd i ddatblygu ei ddealltwriaeth a gwybodaeth o lansio ei fusnes ei hun. Er mwyn rhoi dealltwriaeth glir i Brian sut i ddechrau busnes, fe fynychodd weminarau ‘Dechrau eich Busnes eich hun’ a ‘Treth a Chadw Cyfrifon’ yn ymdrin â phynciau busnes amrywiol, gan gynnwys cynllunio ariannol, marchnata, treth a chadw cyfrifon.
Yn gymwys i ymgeisio am y ‘Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes ar gyfer unigolion 25 oed a hŷn’, cafodd Brian gefnogaeth gan gynghorydd busnes gyda’r cais, ac ysgrifennu cynllun busnes a rhagweliad llif arian.
O ganlyniad, lansiodd ei fusnes golygu fideo ei hun, BC Webb Media, ar ôl derbyn cyllid yn llwyddiannus, cyngor busnes a chynyddu ei hunan hyder!
A oes gennych chi syniad busnes?
Dechreuwch adeiladu eich busnes heddiw drwy gysylltu â’r tîm am gyngor a chefnogaeth Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)