Mae fy nghynghorydd Busnes Cymru yn fentor arbennig, ac rwyf bellach yn gallu cynnig y smwddis a’r suddion gorau ym marchnad Abertawe.
Ar ôl ymddeol, penderfynodd Dr Sreekanth Tinnelveli ddechrau busnes bar sudd yn Abertawe.
Er mwyn sicrhau bod Dr Sreekanth yn gallu datblygu ei uchelgais yn fusnes masnachu, cysylltodd â Busnes Cymru i ofyn am gyngor a chymorth arbenigol. Ac yntau wedi mynychu ein gweminar Dechrau Busnes, datblygodd gynllun busnes a rhagolwg llif arian gyda’i gynghorydd busnes, gan sicrhau bod modd monitro cynnydd y busnes dros amser.
Mae Smoothie Den bellach yn masnachu’n llwyddiannus ym marchnad Abertawe, yn cynnig smwddis, ysgytlaeth a suddion iach i bobl Abertawe.
A ydych chi eisiau gwireddu eich syniad busnes? Gall Busnes Cymru eich helpu chi! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)