BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Sophie Community Care

Helpodd Busnes Cymru fi i fagu’r hyder i ddechrau fy musnes fy hun.

Ar ôl 19 mlynedd o brofiad mewn cartrefi gofal ac ysbytai, penderfynodd Sophie Powell ddechrau ei busnes ei hun fel micro-ofalwr ar ôl cymryd rhan ym mhrosiect micro-ofal Sir Fynwy.  Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Busnes Cymru a Phartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf sy’n cynnig cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor i weithwyr gofal cartref.

Mae Sophie’n Niwroamrywiol ac yn teimlo y bydd gweithio’n hunangyflogedig yn rhoi’r hyblygrwydd iddi i barhau â’i gyrfa fel micro-ofalwr o amgylch ei hymrwymiadau eraill - rhywbeth mae hi’n awyddus i annog unigolion niwroamrywiol eraill i’w ystyried.

Rhan allweddol o’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Busnes Cymru oedd helpu Sophie i wneud cais llwyddiannus am y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes i bobl 25 oed a hŷn.  Gwnaeth y grant helpu i dalu am ei chostau cychwynnol a gwireddu ei chynlluniau o ddechrau ei busnes, Sophie Community Care.

Ydych chi’n ystyried dechrau eich busnes gofal eich hun?

Cysylltwch â ni heddiw Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

    


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.