Mae Busnes Cymru wedi fy helpu i wireddu fy nghynllun busnes, a rŵan rwy’n byw fy mreuddwyd.
Gan ei bod hi’n frwdfrydig iawn ynglŷn â’r syniad o ddarparu gofod diogel, di-straen i bobl ymlacio, penderfynodd Jenny Jarvis y byddai’n agor Stiwdio Ioga a Chaffi yng Nghaerdydd.
Er bod ganddi brofiad busnes blaenorol, daeth Jenny at Busnes Cymru am gymorth. Wedi iddi ymchwilio i ddarpariaethau ioga a bwytai iach yn yr ardal, llwyddodd Jenny i adnabod bwlch yn y farchnad.
Bu i’w hymgynghorydd adolygu ei chynllun busnes a’i rhagolygon ariannol er mwyn darparu cefnogaeth busnes cyffredinol yn ogystal â rhagolygon gwerthiannau ar gyfer busnes newydd Jenny.
Gyda chymorth a chyngor arbenigol ei hymgynghorydd, llwyddodd Jenny i agor ei busnes, Vibes, @vibesyogabar, ym Mae Caerdydd.
Hoffech chi wireddu eich breuddwydion busnes? Gallwn eich helpu i ddechrau eich menter busnes! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)