“Mae ein cynghorydd Busnes Cymru wedi bod yn help enfawr i’m busnes bach.”
Bwriad Natasha Baker oedd agor meithrinfa a fyddai’n wahanol i’r gweddill yn yr ardal. Ei syniad oedd agor meithrinfa gofal dydd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd, gan feithrin plant i ddysgu a thyfu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyn sefydlu’r busnes, cafodd Natasha gymorth cyn cychwyn gan ei chynghorydd Busnes Cymru. Aethpwyd ati i ddiwygio’i chynllun busnes a’i rhagolygon llif arian a chafodd gyngor ynglŷn â phrydlesu eiddo.
Roedd Natasha angen cyllid a chymorth ariannol i ddechrau masnachu ac fe’i cyfeiriwyd at Benthyciadau i Gychwyn a Banc Datblygu Cymru. Hefyd, llwyddodd ei chynghorydd sgiliau i roi cymorth iddi ynglŷn â defnyddio prentisiaid, hyfforddi staff, diogelu, cymorth cyntaf a hylendid bwyd.
Erbyn hyn, mae Wibli Wobli Nursery Ltd yn masnachu fel y feithrinfa gofal dydd cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghasnewydd!
A oes gennych syniad busnes, ond a ydych yn ansicr sut i fynd ati? Gall y tîm eich helpu i adeiladu eich busnes Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)