“Rwyf wedi dysgu cymaint, mae fy musnes yn dechrau tyfu go iawn, diolch i Fusnes Cymru.”
Wedi ymrwymo i gymhwyso fel gweinydd dinesig i gynnal angladdau, priodasau a seremonïau enwi, cysylltodd Jane Jones â Busnes Cymru am gymorth dechrau busnes ac opsiynau cyllido.
Mynychodd Jane ein gweminarau ‘Dechrau a Chynnal Busnes’ a ‘Threth a Chadw Llyfrau’ i ddysgu mwy am redeg busnes.
Gyda chymorth ei hymgynghorydd, derbyniodd Jane y Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes i bobl 25 oed a hŷn, gan ei galluogi i gael hawl i gwrs hyfforddi achrededig cenedlaethol a chostau tuag at ei gwefan a deunyddiau marchnata.
Mae Jane bellach yn weinydd cymwys yng Ngogledd Cymru, ac wedi dechrau ei busnes, Willow Bespoke Ceremonies.
Hoffech chi gymorth i ddechrau eich busnes? Cysylltwch â’r tîm heddiw! Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)