BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadwch Gymru'n Daclus

Text - mae gan Cymru y nifer fwyaf o safleoedd cymunedol y Faner Werdd yn y byd

Cadwch Gymru'n Daclus yw'r elusen sydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ledled Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Mae Cymru'n chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd. Mae’r nifer uchaf erioed o Faneri Gwyrdd yn chwifio mewn mannau gwyrdd ledled Cymru, yn dilyn cyhoeddiad Cadwch Gymru’n Daclus am fannau a gafodd Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd ar gyfer 2024/25.

Nod Gwobr y Faner Werdd, a gyflwynir yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus, yw cysylltu pobl â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau oll. Y gwobrau yw’r meincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd, fel bod ymwelwyr yn gwybod ble bynnag mae Baner Werdd, eu bod nhw’n ymweld â lle eithriadol gyda’r safonau uchaf: Cymru'n hedfan mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd - Cadwch Gymru'n Daclus

Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pawb i weithredu ac i ofalu am yr amgylchedd. Trwy weithio gyda'n gilydd i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn adeiladu cymunedau cryfach ac iachach a gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n planed.

Byddwch yn rhan o fudiad #CaruCymru.

Nod Caru Cymru yw cael gwared ar sbwriel a gwastraff. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i fusnesau ledled Cymru ymuno â’r mudiad ar gyfer yr ymgyrch.

Sicrhewch eich bod chi’n cyrraedd eich targedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a gwnewch i'ch staff deimlo'n dda am eu lleoliad, trwy gymryd rhan yn un o'r ymgyrchoedd cenedlaethol: Cymorth Busnes - Cadwch Gymru'n Daclus - Caru Cymru

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r mannau o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw ar Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.