BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogaeth argyfwng i fusnesau sydd wedi'u taro gan goronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1.4bn i fusnesau bach er mwyn eu helpu yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Bydd siopau, busnesau hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100% a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 yn eu bil. 

Yn ychwanegol at y cymorth hwn mae pecyn newydd a fydd, yn 2020/21, yn rhoi rhyddhad ardrethi busnes am un flwyddyn i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru, a grant o £25,000 i’r busnesau hyn sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.

Mae hefyd yn darparu grant o £10,000 i’r holl fusnesau sy’n gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach ac sydd â gwerth o £12,000 neu lai.

Nid oes rhaid i fusnesau sy’n gymwys am y cymorth hwn wneud unrhyw gais ar gyfer y cynllun hwn. Bydd yn cael ei weinyddu drwy’r system Ardrethi Busnes. Nid oes angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol ynglŷn â hyn. Byddwch yn derbyn gwybodaeth maes o law.

Am wybodaeth ar gyfer eich busnes ar coronafeirws ewch i dudalen cyngor coronafeirws Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.