Mae archwiliadau hawl i weithio wedi’u haddasu dros dro yn sgil coronafeirws (COVID-19). Mae hyn er mwyn ei gwneud yn haws i gyflogwyr eu cynnal.
Ers 30 Mawrth 2020, mae’r newidiadau dros dro canlynol wedi’u gwneud:
- Gellir cynnal archwiliadau nawr ar alwadau fideo
- Gall ymgeiswyr am swyddi a gweithwyr presennol anfon dogfennau wedi’u sganio neu lun o ddogfennau ar gyfer archwiliadau gan ddefnyddio e-bost neu ap ffôn symudol, yn hytrach nag anfon fersiynau gwreiddiol
- Dylai cyflogwyr ddefnyddio’r Gwasanaeth Archwilio Gweithwyr os na all darpar weithiwr neu weithiwr presennol ddarparu unrhyw un o’r dogfennau a dderbynnir.
Mae archwiliadau yn parhau i fod yn angenrheidiol ac mae’n rhaid i chi barhau i wirio’r dogfennau a restrir yn y rhestr hon o ganllawiau i gyflogwyr ar archwiliadau hawl i weithio.
Mae’n parhau yn drosedd i gyflogi rhywun y gwyddoch nad oes ganddynt hawl i weithio yn y DU.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes, ewch i dudalennau cyngor am y Coronafeirws Busnes Cymru.