Mae llywodraeth y DU yn cynghori gwladolion Prydeinig i beidio ymgymryd ag unrhyw deithio rhyngwladol nad yw’n hanfodol.
Cyhoeddwyd y cyngor eithriadol hwn oherwydd bod y pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi arwain at gau ffiniau rhyngwladol a chyfyngiadau eraill na welwyd mo’u tebyg o'r blaen.
Mae Llywodraeth y DU yn dosbarthu cludo nwyddau domestig a rhyngwladol (i gynnwys mewn awyren, mewn llong, ar y ffordd neu ar y rheilffordd, gan gynnwys cludiant rholio ymlaen/rholio i ffwrdd) yn weithgaredd hanfodol yng nghyd-destun cyngor y Llywodraeth ar deithio. Nid yw'r cyngor i beidio ymgymryd ag unrhyw deithio nad yw’n hanfodol wedi'i fwriadu i gynnwys cludo nwyddau domestig a rhyngwladol.
Mae cyngor Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar deithio yn parhau i gael ei adolygu’n gyson ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd â'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau a mesurau eraill sydd ar waith ym mhob gwlad/tiriogaeth. Darllenwch y cyngor diweddaraf ar deithio a chofrestru i gael hysbysiadau e-bost ar gyfer pob gwlad rydych chi’n teithio ynddi.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r Coronafeirws.