Ydych chi am gael gwybod mwy am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer busnesau bach yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19)?
Cofrestrwch ar gyfer gweminarau am ddim a gynhelir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Cymorth ariannol ar gyfer busnesau bach yn ystod coronafeirws - a gynhelir ddydd Mawrth 5 Mai 2020 am 11am. Bydd y gweminar hwn yn trafod:
- cymhwyster ar gyfer grantiau busnes bach
- gwneud cais am fenthyciad
- treth
- hawlio ar gyfer cyflogau drwy Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
I gofrestru ar y gweminar, ewch i wefan Eventbrite.
Rheoli eich busnes yn ystod coronafeirws: adrodd, rheoliadau a threth - a gynhelir ddydd Iau 7 Mai am 11am. Bydd y gweminar hwn yn trafod:
- gwiriadau hawl i weithio
- ffeilio adroddiadau a chyfrifon
- cynllun amser i dalu
I gofrestru ar y gweminar, ewch i wefan Eventbrite.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.