Mae CThEM wedi paratoi canllawiau i’ch helpu chi i ddarganfod pa offer, gwasanaethau neu gyflenwadau sy’n drethadwy os yw eich gweithwyr yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws.
Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- band eang
- gliniaduron, tabledi, cyfrifiaduron, a chyflenwadau swyddfa
- ad-dalu treuliau am offer swyddfa mae eich gweithiwr wedi prynu
- treuliau ychwanegol fel trydan, gwres neu fand eang
- benthyciadau gan gyflogwr
- llety dros dro
- gweithwyr yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer busnes
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.