Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu drwy Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru ac yn cynnwys:
- Cronfa dycnwch y Celfyddydau gwerth £7 miliwn
- Cronfa Cydnerthedd Chwaraeon £8 miliwn
- Cronfa gwerth £1miliwn Cymru Greadigol i roi cymorth i leoliadau cerddoariaeth lleol i ymateb i bwysau ar unwaith
- Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol gwerth £1 miliwn ar gyfer amgueddfeyddd, casgliadau, gwasanaethau cadwraeth, archifau a llyfrgelloedd cymunedol
- Cronfa Cymorth Brys gwerth £750,000 i gefnogi ein sefydliadau chwaraeon, amgueddfeydd a threftadaeth annibynnol lleiaf a mwyaf bregus gyda llif arian a phroblemau hollbwysig eraill
- Adnoddau Llyfrgell Digidol gwerth £250,000
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes, ewch i dudalennau cyngor am y Coronafeirws Busnes Cymru.