BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Pellhau cymdeithasol, gweithio hyblyg a gweithio o gartref

Cyngor cyfredol y Llywodraeth y DU yw i bawb geisio atal cysylltiad diangen gyda phobl eraill – ' pellhau cymdeithasol '.

Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithio o gartref lle bo'n bosibl
  • osgoi amseroedd cymudo prysur ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • osgoi crynoadau o bobl, boed yn gyhoeddus, yn y gwaith neu gartref

Dylai cyflogwyr gefnogi eu gweithlu i gymryd y camau hyn. Gallai hyn gynnwys:

  • cytuno ar ffyrdd mwy hyblyg o weithio, er enghraifft newid amserau dechrau a gorffen i osgoi amseroedd cymudo prysurach
  • caniatáu i staff weithio gartref lle bynnag y bo modd
  • canslo digwyddiadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb ac aildrefnu i sgwrsio o bell lle bo hynny'n bosibl, er enghraifft drwy ddefnyddio technoleg fideoalwad neu gynhadledd fideo

Darllenwch Coronafeirws: cyngor i gyflogwyr a chyflogeion gan ACAS, sy'n cynnwys:

  • hunan-ynysu a thâl salwch
  • os oes angen i gyflogwr gau'r gweithle
  • os yw cyflogwr angen amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am rywun
  • os oes gan rywun symptomau coronafeirws yn y gwaith
  • os daw rhywun sydd yn gweithio i chi â coronafeirws yn dod i’r gwaith

I gael rhagor o ganllawiau ar Goronafeirws ewch i wefan: 

Mae CThEM wedi sefydlu llinell gymorth i helpu busnesau a phobl hunangyflogedig sy’n poeni am beidio â gallu talu trethi o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19). Rhif y llinell gymorth yw 0800 0159 559 ychwanegol i rifau, I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.