BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500 miliwn wedi’i lansio ar gyfer Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £500 miliwn heddiw i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi Cymru, busnesau ac elusennau sy’n profi gostyngiad enfawr mewn masnachu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Nod y Gronfa Cadernid Economaidd yw cau bylchau’r cynlluniau cefnogi sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl.

Bydd y gronfa newydd gwerth £500 miliwn yng Nghymru yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar y rhai nad ydynt wedi elwa eisoes o’r grantiau coronafeirws sydd wedi’u cyhoeddi eisoes gan Lywodraeth Cymru.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.