BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa newydd i dyfu gweithlu coedwigaeth Cymru

Lampeter Tree Services

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £280,000 mewn cronfa sgiliau a hyfforddiant newydd sy'n gysylltiedig â choedwigaeth, gyda'r nod o dyfu'r gweithlu a darparu gwreiddiau cryf i'r diwydiant flodeuo.

Mae'r gronfa Sgiliau Coedwigaeth a Phren yn rhan o ymdrechion Cymru i ddiogelu'r gweithlu yn y dyfodol a darparu llwybr at yrfa mewn coedwigaeth - diwydiant y mae ei weithlu sy'n heneiddio wedi arwain at bryderon y byddwn yn gweld prinder sgiliau yn y DU yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r gronfa'n rhan o Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru a bydd yn cefnogi busnesau i fynd i'r afael â bylchau sgiliau yn eu gweithlu drwy ddarparu cymhorthdal ar gyfer lleoedd ar gyrsiau achrededig yn y gadwyn gyflenwi coedwigaeth a phren, gyda hyd at £20,000 ar gael fesul sefydliad.

Mewn astudiaeth yng Nghymru a Lloegr o fusnesau coedwigaeth yn 2021, rhestrodd yr ymatebwyr ddiffyg sgiliau fel y prif reswm dros swyddi gwag heb eu llenwi.

Gyda'r angen am fwy o weithwyr medrus i gyrraedd y targedau ar gyfer creu coetiroedd ac i ehangu faint o bren o safon sy’n cael ei gynhyrchu i fodloni'r galw cynyddol am gartrefi cymdeithasol ffrâm bren carbon isel, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gyflym i helpu i fynd i'r afael â'r mater. 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru Porth Sgiliau


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.