Mae NHSX wedi cyhoeddi £500,000 mewn cyllid ar gyfer arloeswr fyddai’n gallu cynnig atebion digidol i helpu’r rheini sy’n hunanynysu oherwydd coronafeirws.
Mae’r rhaglen, TechForce19, yn chwilio am atebion digidol a fydd yn gallu cael eu defnyddio’n gyflym. Gallen nhw gynnwys:
- cymorth gofal cymdeithasol o bell
- adnoddau ar gyfer recriwtio
- hyfforddi a chydlynu gwirfoddolwyr lleol
- adnoddau ar gyfer asesu’r galw’r am adnoddau i’r gweithlu o gwmpas y wlad
- gwasanaethau digidol ar gyfer hunan-reoli iechyd meddwl a lles
Mae hyd at £25,000 ar gael i bob cwmni sy’n cymryd rhan, a’r nod yw gallu defnyddio’r atebion “ar raddfa fawr” o fewn wythnosau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2020.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Techforce19.UK.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.