Oes gennych chi bobl yn gweithio gartref dros dro o ganlyniad i’r achosion o’r Coronaferiws?
Fel cyflogwr, mae gennych chi’r un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch dros y rheini sy’n gweithio gartref ag unrhyw weithwyr eraill.
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor ynghylch sut gallwch chi leihau’r risgiau i’w hiechyd, sy’n cynnwys gwybodaeth am y pynciau canlynol:
- gweithwyr unigol
- gweithio gyda chyfarpar sgrin arddangos
- straen ac iechyd meddwl
I gael gwybod mwy, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.