BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Recriwtio Cynhwysol BITC Cymru

Group of colleagues smiling

Agor Drysau/Opening Doors yw ymgyrch recriwtio gynhwysol flaenllaw Busnes yn y Gymuned (BITC) sy'n galw ar gyflogwyr i newid sut maent yn recriwtio i helpu i wneud 2 filiwn o swyddi'n fwy cynhwysol erbyn 2025.

Ym mis Mai, lansiodd BITC y dirnadaethau o'n prosiect ymchwil, "Opening Doors: What Works". Nod yr ymchwil hon yw amlygu strategaethau effeithiol y gall cyflogwyr eu mabwysiadu i gefnogi ceiswyr gwaith o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel, yn enwedig y rhai sy'n wynebu heriau sy'n ymwneud â hil, oedran a rhyw.

Ymunwch â digwyddiad BITC am ddim yng Nghaerdydd ar 24 Medi 2024 i glywed canfyddiadau ymchwil What Works BITC a dysgu am y manteision i’ch busnes o fabwysiadu prosesau recriwtio cynhwysol i fanteisio ar dalentau gweithlu amrywiol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Recriwtio Cynhwysol yng Nghymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.