Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025 ar agor ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau.
Mae'r Gwobrau'n gweld cannoedd o gynhyrchwyr a chyflenwyr o Gymru o bob rhan o'r sector, a phob cornel o Gymru, yn ymuno â'i gilydd bob blwyddyn i ddathlu llwyddiannau busnesau ac unigolion sy'n gwneud y diwydiant yr hyn ydyw heddiw.
Yn ôl am ei bedwaredd flwyddyn, mae mwy na phedwar cant o bobl yn mynychu'r digwyddiad, gan gynnwys arweinwyr ac arloeswyr sy'n sbarduno twf pellach yn economi Cymru.
Y categorïau yw:
- Cwmni newydd y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
- Entrepreneur y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
- Allforiwr y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
- Prentis y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
- Gwobr Arloesedd Bwyd a Diod Cymru
- Gwobr Gwerthoedd Cynaliadwy Bwyd a Diod Cymru
- Seren Newydd y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
- Cwmni sy’n Ehangu’r Fwyddyn Bwyd a Diod Cymru
- Gwobr Cymuned Leol Bwyd a Diod Cymru
- Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn
- Cynhyrchydd Diodydd Mawr y Flwyddyn Cymru
- Cynhyrchydd Diodydd Bach y Flwyddyn Cymru
- Busnes Artisan y Flwyddyn Bwyd a Diod Cymru
- Gwobr Gwytnwch Busnes
- Busnes o’r Fferm i’r Fforc y Flwyddyn
- Pencampwr Bwyd a Diod y Flwyddyn Cymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Chwefror 2025 gyda'r seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 22 Mai 2025 yn Venue Cymru, Llandudno.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwobrau 2025 – Gwobrau Bwyd a Diod
Is-adran Bwyd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru yng Nghymru yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Ein gweledigaeth yw creu sector bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gydag enw da byd-eang am ragoriaeth, gydag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.