BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llinell gymorth ynghylch treth i fusnesau mae’r coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnynt

Mae CThEM wedi sefydlu llinell gymorth i helpu busnesau a phobl hunangyflogedig sy’n poeni am beidio â gallu talu trethi o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19).

Os ydych chi’n rhedeg busnes neu’n hunangyflogedig a’ch bod yn poeni am fethu talu’ch trethi o ganlyniad i’r coronafeirws, gallwch ffonio llinell gymorth CThEM i gael cymorth a chyngor: 0800 0159 559.

Rhif y llinell gymorth yw 0800 0159 559 - ac mae’n rhif ychwanegol i rifau cyswllt eraill CThEM.

Mae’r llinell ar agor rhwng 8am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8am a 4pm ar ddydd Sadwrn. Ni fydd y llinell gymorth ar gael ar Wyliau’r Banc.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.