Wrth i arweinwyr byd ymgynnull yng nghynhadledd fioamrywiaeth COP16 Cali yr wythnos hon, a fis cyn iddynt ddod at ei gilydd yn Baku ar gyfer COP 29, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth sy'n canolbwyntio ar ddarparu Cymru wedi'i haddasu ar gyfer ein hinsawdd sy'n newid.
Mae Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd Cymru ar gyfer 2024 - a rennir gan y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies - yn amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â'r achosion.
Mae'n nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud eisoes a beth y bydd yn ei wneud yn y dyfodol.
Mae'r ddogfen yn cynnwys cynlluniau i bob rhan o'r llywodraeth weithio gyda'i gilydd, o ddiogelu rhwydweithiau trafnidiaeth agored i niwed rhag tywydd eithafol i weithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â materion diogelwch bwyd.
Mae'n dathlu cynnydd fel y buddsoddiad o £75m, y buddsoddiad mwyaf hyd yma, i greu amddiffynfeydd gwell rhag llifogydd.
Mae meysydd allweddol o ran datblygu polisi yn cael eu cydnabod, megis y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cefnogi ffermwyr i dyfu bwyd o ansawdd uchel mewn ffordd gynaliadwy.
Mae'r strategaeth hefyd yn dogfennu ymrwymiadau allweddol fel diogelu a rheoli 30% o dir, dŵr croyw ac ardaloedd morol yn effeithiol; a elwir yn darged '30 erbyn 30'.
Bydd y Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd newydd nawr yn cael ei defnyddio i ysgogi ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid ar bwnc addasu i'r hinsawdd trwy gynhadledd rithwir Wythnos Hinsawdd Cymru fis nesaf (11-15 Tachwedd).
Mae rhagor o drafodaethau wedi'u cynllunio drwy raglen o ddigwyddiadau cyhoeddus Sgyrsiau am yr Hinsawdd sydd i'w cynnal ledled Cymru rhwng Tachwedd a Ionawr.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i ddarganfod mwy a chofrestru i gymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru: www.wythnoshinsawdd.llyw.cymru.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales).